Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Rhagfyr 2021
Amser:
09.30 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12510
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Dr Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dr Gwenllian Landsdown Davies, Mudiad Meithrin Iestyn Davies, Colegau Cymru Mabon Dafydd, Undeb Myfyrwyr Bangor Sian Lewis, Urdd Gobaith Cymru Betsan Moses, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tegwen Morris, Merched y Wawr Caryl Haf, Clwb Ffermwyr Ifanc Ruth Richards, Dyfodol i'r Iaith Mabli Jones, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Efa Gruffudd Jones, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol Meirion Davies, Mentrau Iaith |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
2 Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Addysg Gymraeg
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; y Mudiad Meithrin; Colegau Cymru; ac Undeb Myfyrwyr Bangor.
2.2 Cytunodd Mudiad Meithrin i rannu ei maniffesto ar gyfer y Chweched Senedd â'r Pwyllgor.
3 Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Sefydliadau dinesig Cymraeg
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Urdd Gobaith Cymru; yr Eisteddfod Genedlaethol; Merched y Wawr; a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc.
4 Ymchwiliad undydd i’r Gymraeg: Sefydliadau dinesig Cymraeg
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dyfodol i'r Iaith; Cymdeithas yr Iaith; y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; a Mentrau Iaith Cymru.
4.2 Cytunodd Dyfodol i'r Iaith i rannu ei maniffesto ar gyfer y Chweched Senedd â'r Pwyllgor.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 15 Rhagfyr 2021
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Strategaeth a blaenoriaethau drafft ar gyfer y Chweched Senedd
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytuno mewn egwyddor ar y braslun arfaethedig ar gyfer yr adroddiad ar flaenoriaethau’r Chweched Senedd, a’r amserlen arfaethedig ar gyfer cwblhau’r gwaith hwn a chyhoeddi’r adroddiad, yn amodol ar drafodaethau ychwanegol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9 Agenda ddrafft ar gyfer digwyddiad cynllunio strategol
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr agenda ddrafft ar gyfer y digwyddiad cynllunio strategol a drefnwyd ar gyfer ei gyfarfod nesaf, a chytunodd ar yr agenda hon.
10 Ymweld â’r Gogledd ar gyfer busnes y Pwyllgor.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes i ofyn am ganiatâd i adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022, i ganiatáu i’r Aelodau deithio i’r Gogledd i gynnal cyfres o ymweliadau mewn perthynas â'i bortffolio a’i ymchwiliad i chwaraeon y bydd yn ei gynnal.